Psalms 75

Y Duw sy'n barnu'n deg

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Paid dinistrio". Salm gan Asaff; Cân.

1Dŷn ni'n diolch i ti, O Dduw;
ie, diolch i ti!
Rwyt ti wrth law bob amser,
ac mae pobl yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
2Meddai Duw, “Mae amser wedi ei drefnu
pan fydda i'n barnu'n deg.
3Pan mae'r ddaear a phawb sy'n byw arni yn crynu,
fi sy'n cadw ei cholofnau'n gadarn.

 Saib
4Dw i'n dweud wrth y balch, ‘Peidiwch brolio!’
ac wrth y rhai drwg, ‘Peidiwch bod yn rhy siŵr ohonoch eich hunain!
5Peidiwch codi eich cyrn yn uchel
a bod mor heriol wrth siarad.’”
6Nid o'r gorllewin na'r dwyrain,
nac o'r anialwch y daw buddugoliaeth –
7Duw ydy'r un sy'n barnu;
fe sy'n tynnu un i lawr ac yn codi un arall.
8Oes, mae cwpan yn llaw'r Arglwydd
ac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi ei gymysgu.
Bydd yn ei dywallt allan,
a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed –
yn yfed pob diferyn!
9Ond bydda i'n ei glodfori am byth,
ac yn canu mawl i Dduw Jacob, sy'n dweud,
10“Bydda i'n torri cyrn y rhai drwg,
ac yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.”
Copyright information for CYM